25.4 C
New York
Friday, June 13, 2025

Buy now

spot_img

Amgueddfa ‘unigryw’ Lloyd George ar ei newydd wedd


Mae amgueddfa yng Ngwynedd sy’n olrhain hanes cyn-brif weinidog y Deyrnas Unedig, David Lloyd George, wedi’i thrawsnewid yn sgil buddsoddiad o £280,000.

Y gobaith ydy gwneud y profiad ar y safle yn Llanystumdwy yn un mwy cyfoes a pherthnasol.

Mae’r amgueddfa a’r cyngor sir yn gobeithio y bydd yn denu mwy o bobl leol ag ymwelwyr i ddysgu am fywyd a gwaith ffigwr arwyddocaol ond dadleuol mewn hanes.

Fel rhan o’r prosiect, cafodd y dylunwyr amgueddfeydd Mather & Co eu comisiynu i foderneiddio’r arddangosfeydd ac integreiddio’r arteffactau â’r stori.

Y nod, meddai Megan Corcoran, Swyddog Datblygu Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd, ydy galluogi i ymwelwyr gael “dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o Lloyd George a chyd-destun ei oes”.

Ychwanegodd bod rhai pethau newydd wedi’u hychwanegu at y casgliad: “Un o’r straeon ‘da ni’n adrodd am y tro cynta’ ydy stori telegram gan deulu JFK i deulu Lloyd George ar be’ fyddai wedi bod ei ben-blwydd yn 100 oed.

“Mae ‘na gysylltiad rhwng JFK a Lloyd George gan fod JFK wedi dyfynnu araith Lloyd George ei hun, ac araith ydy hi am yr hyn dwi’n credu ydy Cwm Pennant.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles