Roedd 828,600 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025, yn ôl yr arolwg blynyddol o’r boblogaeth (ABB).
Dyma’r ganran isaf i’w chofnodi ers Medi 2013, sef 26.9% o bobl dair oed neu hÅ·n yn gallu siarad Cymraeg.
Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar y pedair sir o dan sylw ond dywedodd Dr Royles bod y casgliadau yn berthnasol i Gymru gyfan.
Dywedodd Dr Royles, sy’n Ddarllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, bod “gweithleoedd yng Ngwlad y Basg wedi arwain at arbenigedd helaeth dros y ddau ddegawd diwethaf” a bod gan Gymru le i ddysgu.
“Hyd yma, mae llawer o’r pwyslais wedi bod ar y modd y gall y Gymraeg fod yn fantais economaidd i fusnesau a sut mae cynyddu’r cyfleon i gwsmeriaid ddefnyddio’r iaith wrth ymwneud gyda chwmnïau preifat.
“Beth mae’r adroddiad yma yn ei nodi yw’r cyfleon pellach i ddatblygu sut ydyn ni’n trafod rôl gweithleoedd mewn hyrwyddo iaith a’r dulliau o gefnogi’r ddefnydd o’r Gymraeg mewn busnesau, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.
“Mae nifer o’r argymhellion hefyd yn berthnasol i’r sector gyhoeddus.”