21.7 C
New York
Thursday, September 25, 2025

Buy now

spot_img

‘Angen cytundeb Senedd Cymru cyn i’r GIG allu cynnig cymorth i farw’


Fe fydd y ddeddf, sy’n cyfreithloni cymorth i farw yn achos pobl ag afiechydon terfynol, yn berthnasol i Loegr a Chymru, ond mae cwestiynau cyfansoddiadol wedi codi oherwydd ei geiriad.

Yn ogystal â chyfreithloni’r cysyniad o gael cymorth i farw yn y ddwy wlad, mae’n amlinellu sut fyddai’r fath drefn yn gweithio – gan orgyffwrdd â gofynion cyfreithiol y maes gofal iechyd sydd fel arfer dan reolaeth Senedd Cymru.

O ganlyniad mae dadl wedi codi o ran faint o reolaeth y dylai’r Senedd gael.

Fis Hydref y llynedd fe bleidleisiodd y Senedd yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith yn caniatáu’r hawl i ddewis cael marw.

Pleidleisiodd 19 AS o blaid, 26 yn erbyn ac fe wnaeth naw arall ymatal – neu wrthod pleidleisio.

Mae disgwyl y bydd yna o leiaf un bleidlais ar y mater yn y Senedd, i ystyried yn y lle cyntaf a oes cytundeb i’r ddeddfwriaeth ddod i rym o fewn meysydd dan reolaeth y Senedd.

Mae disgwyl i’r bleidlais honno gael ei chynnal yn yr hydref.

Ni fyddai’n orfodol yn gyfreithiol ond fe fyddai’n amlygu a yw Senedd Cymru’n credu y dylai’r ddeddf fod yn weithredol o fewn meysydd datganoledig.

Mae’n debygol y byddai angen ail bleidlais pe byddai Llywodraeth Cymru eisiau cynnal gwasanaeth hawl i farw, ond fe allai’r weinyddiaeth ddewis peidio cynnal pleidlais os yw’r Senedd yn gwrthwynebu’r polisi.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles