Roedd ei theulu a’i chartref yn bwysig iawn i Annette ar hyd ei hoes ac, ar ôl perfformio ar lwyfannau ar hyd y wlad, fe ddychwelodd i Ddeiniolen at ei gŵr Gwyn, a fu farw yn 2021, a’r plant Heledd, Ynyr a Bedwyr.
Ac mae Ynyr a Bedwyr yn cofio eu cartref fel lle arbennig iawn.
Meddai Bedwyr: “Mae’n beth rhyfedd i esbonio ond ‘dan ni wedi bod fel plant yn Cynefin (cartref y teulu) ers cael ein geni. Tra’n tyfu fyny ‘dach chi’n meddwl bod yr awyrgylch yn y tÅ· yn normal efo Mam yn chwarae piano a Dad yn coginio – atgofion melys iawn.
“Dwi’m yn meddwl bo’ chi’n gweld o mor sbeshal pan ‘dach chi’n tyfu fyny ond wrth edrych yn ôl ar yr amser mae wedi bod yn sbeshal iawn i ni fel plant i dyfu fyny yn Cynefin.
“O’n i wastad yn siarad efo ffrindiau ac yn deud, ie oedd Bryn Terfel yn y tÅ· a tra oedd Mam yn gwneud panad iddo fo oeddwn i’n cael gêm o Nintendo neu cael gêm o pool ac oedd pobl yn sbïo’n wirion.
“Ac wedyn ella oedd Bryn yn mynd ac erbyn pump o’r gloch y pnawn oedd Hogia’r Wyddfa yna i fynd drwy’r dyddiadur a chael ymarfer.
“I rywun mae hynna’n anhygoel ond i ni, dydd Sul oedd o.
“Dwi wastad wedi cymryd hynna, fel ma’ nhw’n deud for granted, cael gymaint o artistiaid neu pobl gwahanol yn dod acw ond geiriau enwog Mam oedd ‘dowch i fyny a mi awn ni drwyddo fo’.
“‘Dan ni wedi gweld cymaint o bobl yn dod acw a dwi’n falch iawn mod i wedi cael bod yn rhan o hwnna hefyd, oedd o’n arbennig.
“Oedd hwnna’n deimlad arbennig jest cael gymaint o artistiaid a pobol gwahanol yn dod yn rhan mawr o’n bywydau ni, fel Hogia’r Wyddfa – yncl Arwel, yncl Myrddin, yncl Elwyn.”