20.7 C
New York
Sunday, September 21, 2025

Buy now

spot_img

Apêl wedi gwrthdrawiad angheuol ger Llangennech


Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Gâr nos Fercher.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4138 rhwng cylchfan Llangennech a chylchfan ger yr amlosgfa am oddeutu 22:50.

Roedd dau gar yn rhan o’r gwrthdrawiad sef BMW arian a Peugeot du 208 a bu farw gyrrwr y BMW o’i anafiadau.

Mae gyrrwr y Peugeot yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Bu’r ffordd ar gau tan 08:45 fore Iau.

Mae plismyn yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar ffordd yr A4138 ar y pryd neu sydd ag unrhyw luniau dash cam i gysylltu â nhw.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles