Mae apêl yn yr Uchel Lys yn erbyn penderfyniad i gau canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng wedi methu.
Ym mis Ebrill 2024 fe ddaeth y cyhoeddiad y byddai dwy ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn y Trallwng a Chaernarfon yn cau.
Fe ddywedodd rheolwyr y byddai canolfan newydd yn cael ei hagor yn eu lle yng ngogledd Cymru.
Fe wnaeth ymgyrchwyr yn erbyn y penderfyniad i gau canolfan y Trallwng ennill yr hawl i gyflwyno eu hachos o flaen yr Uchel Lys.
Ond ddydd Iau fe ddyfarnodd Mr Ustus Turner fod yr apêl wedi methu.
Wrth roi ei ddyfarniad, fe ddywedodd Mr Turner: “Rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi’n llwyr dyfnder y teimladau a’r siom y bydd y penderfyniad yma yn ei achosi i lawer o bobl yng nghanolbarth a gogledd Cymru.
“Ond, nid gwaith y llys hwn yw cymryd drosodd y gwaith o wneud penderfyniadau y rheiny sydd wedi derbyn y cyfrifoldeb gan y Senedd.”