22.4 C
New York
Friday, September 26, 2025

Buy now

spot_img

Arglwydd Llafur David Lipsey wedi marw tra’n nofio yn Afon Gwy


Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod corff yr Arglwydd Llafur David Lipsey wedi’i ganfod yn Afon Gwy.

Mae’n debyg ei fod wedi marw tra’n nofio yn yr afon yn ardal Y Clas-ar-Wy, Powys.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiad “ynghylch diogelwch dyn a welwyd ddiwethaf yn nofio yn Afon Gwy”.

“Wedi chwilio helaeth amdano ar 1 Gorffennaf yn anffodus, gallwn gadarnhau bod corff yr Arglwydd David Lipsey wedi’i ddarganfod,” meddai.

“Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac ry’n yn meddwl amdanyn nhw yn ystod yr amser anodd hwn.

“Maen nhw wedi gofyn am i bobl barchu eu preifatrwydd.”

Aeth yr Arglwydd Lipsey i Dŷ’r Arglwyddi yn 1999 – cyn hynny bu’n newyddiadurwr.

Bu hefyd yn ymgynghorydd Downing Street pan oedd Jim Callaghan yn brif weinidog.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles