Mae cwestiynau ynglŷn â phwy fydd yn arwain plaid Reform UK yng Nghymru yn parhau.
Bydd y broses o ethol arweinydd yn digwydd yn ystod yr ymgyrch y flwyddyn nesaf, derbyniodd Mr Powell.
“Ni’n edrych ‘mlaen i weld pwy sy’n mynd i ddod trwyddo. Mae rhaid i’r arweinydd sefyll yn yr etholiad yn gyntaf.
“Mae’r broses yn agor i bawb ac ar ôl y broses honno ni am weld pwy fydd yr arweinydd.”
Ychwanegodd: “Ar y funud ‘di o ddim yn rhywbeth ni’n edrych ar a ni’n gweld yn bwysig.”
Dywedodd Mr Powell y bydd y blaid yn barod am etholiad y Senedd fis Mai nesaf a bod mwy o fanylion ar bolisïau ac ymgeiswyr i ddod.
“Ni wedi adeiladu beth o’n ni eisiau ar y ground yma,” meddai.
“Mae dros 16,000 aelodau’r blaid a ni’n gobeithio nawr diwedd y blwyddyn ni mynd i fod gyda’r enwau o bwy fydd yn sefyll i ni a hefyd y polisïau.”