Mae adroddiad y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) yn argymell y dylai’r holl gyflogau a lwfansau gael eu cynyddu 4.8% o fis Medi 2025 ymlaen.
Roedd awdurdodau lleol ac undebau sy’n cynrychioli’r gweithlu addysg wedi pwysleisio pa mor bwysig oedd hi bod unrhyw ddyfarniad cyflog athrawon yn cael ei ariannu’n llawn.
Dywedodd Lynne Neagle: “Rwy’n deall yr effaith bosibl y gallai codiadau cyflog heb eu hariannu ei chael ar nifer yr athrawon a’r llwyth gwaith.
“Gan gydnabod pwysigrwydd darparu cyllid llawn a chynaliadwy ar gyfer cyflogau athrawon, rwy’n ymgynghori felly ar gynyddu’r holl gyflogau a lwfansau 4% o fis Medi 2025 ymlaen.
“Er bod hyn yn swm is na’r argymhelliad gan IWPRB eleni, yn 2024/25, llwyddais i wneud dyfarniad cyflog o 5.5%, swm sylweddol uwch na’r argymhelliad gan IWPRB o 4.3%.
“Mae’r hyn rwy’n ei gynnig felly yn cyfateb i ddyfarniad cyflog o tua 9.7% dros 2024/25 a 2025/26, o’i gymharu â’r cyfanswm o tua 9.3% a argymhellwyd gan IWPRB dros y ddwy flynedd honno.”
Ychwanegodd, “pe bai Llywodraeth Cymru yn neilltuo’r adnoddau angenrheidiol i ariannu’r dyfarniad cyflog a argymhellwyd, byddai angen ailgyfeirio arian sylweddol o feysydd eraill o wariant y llywodraeth fel cyllidebau ysgolion, yn ogystal â’r cyllid a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg [Mark Drakeford] i gefnogi cyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig gyda chost uwch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.”