Dewisodd Kathy gân gan Linda Griffiths i’r bennod hon o Beti a’i Phobol. Wrth sôn am y dewis, dywedodd,
“Tydan ni’n lwcus o Linda? Be’ dwi’n licio am ganeuon Linda [ydy] mae yna wastad ryw stori bwysig iawn yn ei chaneuon hi.
Ac mae’r stori yn y gân hon am Naid a Taid Penrhos y ddwy ohonynt, David a Blodwen Griffiths.
“Roedd Taid Penrhos yn fachgen siawns, ac yn dlawd ofnadwy ac yn byw efo’i fam a’i nain. Mi ddaru o gwrdd â Blodwen, a mi ddaru nhw briodi.
“Mi aeth o fel gwas fferm i dyddyn bach tu allan i Bontrobert. Un diwrnod oedd o a’r ceffylau wedi bod yn gweithio ers oriau mân y bore tan hwyr yn nos, ac adre aethon nhw i gael swper. A phan oedden nhw’n cael swper, roedd y landlord wedi danfon neges i dd’eud ‘reit dewch ‘nôl i’r caeau at y gwair.’
“Ac fe dd’edodd David, ‘na, yn wir, dwi a’r ceffyle wedi gwneud digon heddiw – ers chwech o’r gloch heddiw bore tan naw o’r gloch fin nos – ‘dan ni ddim am ddod.’
“Wel, y bore trannoeth, mi ffendion nhw allan fod [y landlord] wedi’u llechio nhw allan.”
Gyda chymydog caredig yn cymryd trugaredd ar y cwpl ifanc â “dwy lodes fech” ac un arall ar y ffordd, fe symudodd David a Blodwen i fwthyn bach tu allan i Bontrobert.
Yn o y buon nhw am flynyddoedd yn magu wyth o blant, nes y llwyddodd David i brynu fferm uwchben Meifod, Fferm Pen-bryn ac ar ôl hynny Fferm Penrhos.