Mae Emma wedi derbyn negeseuon gan bobl sy’ wedi defnyddio’r bocsys tra’n aros mewn llefydd gwahanol.
Meddai: “Dwi wedi cael gymaint o negeseuon gan rieni sy’ wedi defnyddio’r bocsys – mae ‘na focsys wedi mynd i’r adran frys yn Ysbyty Gwynedd hefyd ac mae staff wedi dweud bod nhw wedi helpu nhw i helpu’r plant.
“O’n i ddim yn disgwyl fyddai’r bocsys bach ‘ma yn helpu cymaint o deuluoedd.
“Dwi’n nyrs gymuned so dwi’n deall o ochr cael plentyn efo anghenion ychwanegol a dwi’n deall pa mor brysur ydyn ni yn y gwaith hefyd.
“Mae’n helpu’r doctoriaid, y nyrsys a’r rhieni.
“Dwi bach yn overwhelmed am mod i ddim yn disgwyl i’r bocsys fod mor positif. Mae wedi mynd mor bell – mae o’n lyfli.”
Mae Emma wedi bod yn codi arian ers saith mlynedd, gan gychwyn yn codi arian i’r gymuned ond erbyn hyn mae’n codi arian ar gyfer awtistiaeth ac ar gyfer bocsys Noa.
Meddai: “Dwi wedi codi £35,000 hyd yma. Dwi jest yn edrych ar y dyn bach ac mae o’n inspiration a dwi isho ‘neud gwahaniaeth rŵan i ddyfodol Noa a’i ffrindiau. Dwi’n trio neud y byd ‘ma mwy ASD friendly (Autism spectrum disorder) a thrio helpu lle fedra i.
“Dwi wrth fy modd, dwi ddim munud llonydd.”