Mae wedi treulio’i yrfa ym myd addysg; cychwynnodd fel athro yn Ysgol Gynradd Llanfawr, Caergybi yn 1983, cyn ei benodi yn Ddirprwy Brifathro Ysgol y Gelli, Caernarfon yn 1989.
Yn 1995 cychwynnodd ei swydd fel Darlithydd Addysg yn y Coleg Normal, yn ddiweddarach, Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.
Ymysg ei ddiddordebau eraill mae hel achau a gweithgareddau awyr agored, yn cynnwys cerdded mynyddoedd, beicio, a sgïo. Yn ddiweddar mae wedi ailgydio mewn llenydda, ac yn edrych ymlaen at weld Cuddliwio, ei gyfrol gyntaf o ryddiaith, wedi’i chyhoeddi.
Mae’n dilyn llwyddiant un arall o ddisgyblion Ysgol Brynrefail yn y gystadleuaeth, pan enillodd Eurgain Haf, yn wreiddiol o Benisarwaun, y fedal.