Ac yntau ond yn fachgen 11 mlwydd oed ar y pryd, mae Guto’n cofio’r diwrnod “pan nath pethe newid” iddo a’i frawd mawr, Dan.
“Aeth Mam a Dad i barti priodas a fi’n cofio mynd mewn i weld shwt o’n nhw bore ar ôl ‘ny a oedd Mam yn crio ar y gwely a Dad gyda dished o de iddi.
“O’n i’n sylweddoli bod rhywbeth yn bod – oedd coese Mam wedi bod yn stiff y nosweth cyn ‘ny a fi’n credu pennies dropped tamed bach ond do’n i’m yn gwbod lot ac yn holi pam bod Mam yn llefen.
“Wrth i amser fynd ymlaen nath Dad dorri’r newyddion bod Mam yn sâl a gyda MS.”
Tan hynny roedd bywyd yn fêl i Guto. Mae e’n adlewyrchu ar y newid a ddaeth i’w fywyd dros nos ac yntau ond yn blentyn:
“Ges i a ‘mrawd blentyndod itha normal, hapus. Mam a Dad yn rieni arferol – o’n i’n cael popeth, lot o hwyl a sbri, atgofion da.
“Oedd Mam yn stay at home Mam yn bennaf – oedd hi’n ‘neud bach o lanhau fel swydd ond prif swydd hi oedd gofalu ar ôl y tÅ·, golchi kit rygbi a pêl-droed ni, ffîdo ni, oedd hi’n mwynhau ‘neud stwff fel’na.