21.3 C
New York
Wednesday, September 24, 2025

Buy now

spot_img

Caergybi: Safle £51m i reoli ffiniau wedi Brexit i aros yn wag


Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU “ddealltwriaeth gyffredin” gyda’r UE gyda golwg ar negodi ‘ardal iechydol a ffytoiechydol’ a allai eithrio, os caiff ei gytuno, lawer o fewnforion anifeiliaid byw a nwyddau rhag gwiriadau iechydol a ffytoiechydol ar y ffin.

Mae manylion y cytundeb i’w trafod o hyd.

Er bod gwiriadau ar fewnforion o’r UE wedi dechrau ar 30 Ebrill 2024, ni chafodd unrhyw ddyddiad cychwyn ei gyhoeddi erioed ar gyfer mewnforion o Iwerddon.

Yn yr un modd â safleoedd rheolaethau’r ffin ledled Prydain, darparodd Llywodraeth y DU arian ar gyfer y gwaith adeiladu – yn yr achos hwn, £44m o gost o £51m a ysgwyddwyd hyd at ddiwedd 2024-25.

Mae adeiladu’r safle yng Nghaergybi bron wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i’r adeilad gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru yr hydref hwn.

Caergybi yw porthladd fferi prysuraf Môr Iwerddon, gan drin mwy na 75% o fewnforion o Iwerddon i Brydain.

Roedd disgwyl i’r safle greu swyddi yn yr ardal leol, gyda disgwyl i hyd at 30 o weithwyr fod ar y safle dros gyfnod o 24 awr.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles