Mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi amddiffyn cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru gan ddweud wrth y BBC ei bod wedi cyflawni’r hyn y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano.
Dywedodd bod y cynllun i wario £445m ar reilffyrdd Cymru dros ddegawd yn “becyn sylweddol”, ac amddiffynnodd y £118m a glustnodwyd ar gyfer tomenni glo – sy’n llai na’r £600m a amcangyfrifwyd y gallai fod ei angen.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod yr adolygiad gwariant yn “gywilyddus” gyda Phlaid Cymru’n dweud bod “Llafur yn bradychu Cymru eto”.
Yn ôl un ffynhonnell yn Llywodraeth Cymru mae’r cyfnod buddsoddi o 10 mlynedd yn “wych” gan na fyddai’n bosibl adeiladu’r gorsafoedd fel arall.