Mae cannoedd o bobl wedi mynychu gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu bywyd cyn-amddiffynnwr Cymru, Lerpwl a Wrecsam, Joey Jones.
Cafodd ei eni yn Llandudno ar 4 Mawrth 1955, a bu farw yn 70 oed ym mis Gorffennaf eleni.
Fe enillodd 72 o gapiau dros ei wlad gan sgorio un gôl, ac mae’n cael ei ystyried fel un o’r cefnwyr chwith gorau yn hanes y gêm yng Nghymru.
Cafodd y gwasanaeth cyhoeddus ei gynnal yn y Cae Ras yn Wrecsam ddydd Mercher, lle y treuliodd dri chyfnod fel chwaraewr.
Bu’n chwarae i Lerpwl, Chelsea a Huddersfield Town hefyd.
Darllenodd ei ffrind agos, y cyn-bêl-droediwr Mickey Thomas, deyrnged iddo – gan ddisgrifio Jones fel “person anhygoel”.
“Ni fydd byth yn marw yn fy llygaid i,” meddai.