Ac roedd Marged, sy’n byw gyda’i theulu yng Nghaerwrangon erbyn hyn, ar fin cyhoeddi ei nofel gyntaf a phriodi pan gafodd hi’r newyddion wnaeth newid ei byd.
Meddai: “Mae’n golygu bod fi wedi gorfod gohirio cyhoeddi’r llyfr sydd wedi bod yn siom ofnadwy. Ond dwi wedi gorfod derbyn – fedrwch chi ddim gwneud bob dim, a dwi’n gorfod canolbwyntio ar y triniaeth ac ar y teulu. A gohirio’n priodas ni felly pob math o bethau hyfryd oedd i fod y flwyddyn yma.”
Ond un peth sy’ wedi ei helpu drwy’r driniaeth oedd y ffaith fod swydd newydd a chreadigol ganddi i edrych ymlaen ato: “Dwi mor falch o fedru cychwyn y swydd. Mae’n rhaid i mi ddweud mae Rily wedi bod yn hollol anhygoel o ran rhoi cefnogaeth i fi.
“Mae wedi helpu fi i ddechrau swydd newydd ar y cyd a chael triniaeth am y canser. Achos mae o wedi helpu fi gymaint yn feddyliol i gael rhywbeth arall i feddwl amdano fo, rhywbeth positif. Dwi’n teimlo’n gyffrous amdano fo.
“Mae byw efo canser yn cymryd drosodd bob agwedd o dy fywyd di, ac felly mae wedi bod mor fuddiol i fi gael cadw rhyw fath o normalrwydd mewn swydd.
“Mae ymgolli mewn prosiect creadigol wedi bod yn hanfodol hefyd; rhai o’r adegau mwyaf heriol yw’r dyddiau cyn cael canlyniadau sgan neu canlyniadau profion yn dilyn llawdrinaeth, ac yr unig beth oedd yn fy ngadw i rhag mynd i banig llwyr ac yn cymryd fy meddwl i rywle arall ar y dyddiau mwyaf tywyll oedd gweithio ar y nofel ac ymgolli fy hun mewn byd arall.
“Mae o’n bwysig a dwi’n gwybod bod pawb yn delio efo pethau mewn ffyrdd gwahanol ond i fi mae o wedi bod yn help ofnadwy i fedru meddwl am bethau gwahanol a rhywbeth da.”
Wedi ymddiddori ym myd llenyddiaeth ers yn blentyn, mae Marged wedi ysgrifennu nofel yn ei hoff genre, sef ffuglen hanesyddol, ac yn gobeithio cyhoeddi cyn hir.
Mae’n esbonio: “Nofel ydy o am Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Roedd yn frenin yn y deheubarth ar ddiwedd y 10fed ganrif. ‘Da ni’n dilyn bywyd Nest wrth iddi fynd i lys brenin Lloegr ac wedyn yn ôl i Gymru ac mae yna bob math o bethau yn digwydd iddi hi ar hyd y ffordd.
“Dwi wedi bod â diddordeb yn Nest am yn hir iawn. A dwi eisiau rhoi’r llais iddi ac efallai cwestiynu’r portread sydd eisoes yn bodoli ohoni.”