Mae cwpl wedi’u carcharu am 18 mis ar ôl i’w ci ymosod ar blentyn a gadael clwyf enfawr ar ei wyneb.
Dywedodd barnwr ddydd Gwener fod Kayleigh Godbert, 39, a Thomas Moir, 38, yn ffodus nad oedden nhw’n wynebu cyhuddiad o ddynladdiad.
Roedd y plentyn yn lwcus i fod yn fyw, meddai’r Barnwr Simon Mills yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Roedd delwedd o wyneb y plentyn cyn llawdriniaeth yn “syfrdanol” ac un rhwygiad yn “hollol ofnadwy”, meddai.
Cafodd y plentyn ei frathu gan y ci Akita Japaneaidd o leiaf chwe gwaith.
Cyfaddefodd Godbert a Moir fod yn gyfrifol am gi peryglus allan o reolaeth o’r enw Nuqe a achosodd anaf. Roedd y ci wedi brathu rhywun o’r blaen, meddai’r erlyniad.
Dywedodd y Barnwr Mills wrth y cwpl fod yr anafiadau’n “ddychrynllyd” a bod yr hyn a ddigwyddodd oherwydd “esgeulustod llwyr” y diffynyddion.