Ymhlith y canghennau Natwest fydd yn cau mae Treganna, Cwmbrân, Llangefni, Llanisien, Yr Wyddgrug, Castell-nedd, Abergele, Y Trallwng a Phrestatyn.
Yn ôl ymchwil gan WHICH? mae’r grŵp bancio, sydd hefyd yn rhedeg Royal Bank of Scotland ac Ulster Bank, wedi cau 1,455 o ganghennau ers 2015.
Yn Llangefni dyma’r bedwaredd gangen Natwest i gau ar Ynys Môn ar ôl Caergybi, Porthaethwy ac Amlwch.
Taith i Fangor fydd hi o fis Medi ymlaen i bobl yr ardal felly er mwyn cael mynd i gangen.
“Mae sicr yn ergyd i fusnesau. Mae’n sobor o beth i’r busnesau yma,” meddai Ted Thomas, sy’n rhan o fusnes teuluol Siop Cain.