28.5 C
New York
Sunday, August 10, 2025

Buy now

spot_img

‘Cyffro’ artistiaid ynghylch sîn celf weledol y gogledd


Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: “Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym wedi rhannu bron i £3.6m o arian cyhoeddus i sefydliadau celf weledol ar draws Cymru, ac mae’r sefydliadau o’r gogledd yn derbyn tua £1.3m o hwnnw, yn ogystal â’r arian sy’n cael ei gynnig i brosiectau ac unigolion drwy grantiau Loteri.

“Rydym eisoes wedi cyhoeddi bod Cyngor y Celfyddydau yn cael ei ailstrwythuro mewn ymateb i adborth gan staff a’r sector.”

Ychwanegodd fod “adolygiad strategol o’r celfyddydau gweledol” yn cael ei gynnal.

“Rydym yn croesawu adborth gan y sector bob amser ac yn edrych ymlaen at barhau i roi lle canolog i gelf weledol yn ein cefnogaeth o’r celfyddydau.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n gyfrifol am benderfynu sut i ddosbarthu arian i sefydliadau celfyddydol.

“Rydym wedi cynyddu gwariant dyddiol ar y sector diwylliant ehangach 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o’i gymharu â degawd yn ôl, gan gynnwys cyflwyno cronfa newydd o £8m ar gyfer cyfleusterau celfyddydol a buddsoddi £26.5m yn ailddatblygu Theatr Clwyd,” meddai llefarydd.

“Mae mynediad democrataidd at gelf gyfoes a’r casgliad cenedlaethol o’r pwys mwyaf, a dyna pam mae sefydlu Celf, Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru, yn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu.

“Mae’n cynnwys model gwasgaredig o orielau ledled Cymru, yn ogystal â digideiddio celf ar blatfform Celf.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles