Ar ôl i’r cyfweliad gael ei ddarlledu, cysylltodd aelod o’r cyhoedd gyda Newyddion S4C, gan ddweud ei bod hi’n “debygol iawn” y byddai Andrew John wedi bod yn ymwybodol o’r penderfyniad i beidio â pharhau â hyfforddiant dyn i fod yn offeiriad.
Yn eu barn nhw felly “mae’n debygol fod Andrew John yn gwybod am y diwylliant o yfed yn y Gadeirlan yn hwyr yn 2022, a’i fod yn dweud anwiredd wrth wadu”.
Pan ofynnodd Newyddion S4C i Esgob Bangor a oedd e’n ymwybodol o’r digwyddiad honedig, ymatebodd llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor gan ddweud: “Gall Esgob Bangor gadarnhau i’r mater gael ei ddwyn i’w sylw yn 2022.
“Adolygodd y Tîm Diogelu Taleithiol y digwyddiad ac argymell na ddylai’r unigolyn fynychu’r Gadeirlan ac y byddai angen cytundeb diogelu iddo gael mynychu unrhyw un o addoldai’r Eglwys yng Nghymru.
“Gweithredwyd yr argymhellion rheiny.
“Hoffai’r Esgob egluro nad oedd yr unigolyn dan hyfforddiant ond ei fod yn hytrach yn offeiriad ordeiniwyd yn Eglwys Loegr. Symudodd i Gymru ac roedd am ddychwelyd i’r offeiriadaeth.
“Ar adeg y digwyddiad, doedd dim trwydded na chaniatâd ganddo i weinyddu gan yr Eglwys yng Nghymru.”