Mae Ms Atherton yn mynnu bod ganddi “dal llawer i’w roi” ac yn gobeithio parhau â’i gyrfa wleidyddol ym Mae Caerdydd.
Roedd hi’n Aelod Seneddol Wrecsam rhwng 2019 a 2024, ac roedd hi’n weinidog gyda’r Llywodraeth Geidwadol am gyfnod byr yn 2022.
Hi oedd yr aelod Ceidwadol cyntaf dros etholaeth Wrecsam ers ei chreu yn 1918.
Y llynedd, dywedodd Ms Atherton wrth BBC Cymru y dylai’r Ceidwadwyr “groesawu” arweinydd Reform UK Nigel Farage.
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ar y pryd, Andrew RT Davies, feirniadu ei sylwadau.