Yn ôl y cynghorydd lleol Aled Davies, mae wedi ei “synnu” gyda phenderfyniad y cabinet i fwrw ymlaen gyda’r cau, er gwaetha’r rhybuddion am gapasiti yn Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant.
“Roedd swyddogion yn dweud: ‘Na, dydy o ddim yn broblem, byddwn ni’n cael y plant i mewn’,” meddai.
“Ac wedyn mae swyddogion yn dod yma ddoe a dweud wrth rieni: ‘O na, does yna ddim lle yn y dosbarth yna i’ch plentyn chi’.
“Maen nhw wedi mynd i’r gwely neithiwr yn meddwl: ‘Pa ysgol ydw i’n mynd i fynd iddo ym mis Medi?’
“Dim ond 25 diwrnod sydd tan ddiwedd y tymor,” meddai.
Mae’n dweud fod aelodau’r cabinet wedi cael digon o gyfleoedd i ystyried y problemau posib.
“Mae’r broses yma wedi cymryd dros flwyddyn ac ar bob stage, trwy’r broses, scrutiny ac ymgynghoriad gyda’r bobl leol, maen nhw wedi gwneud yn glir iawn bod yna broblem gyda chapasiti mewn rhai dosbarthiadau yn Llanrhaeadr.”
Ychwanegodd fod y cyngor yn “gwthio pobl a rhannu’r gymuned”, wrth i rai feddwl am opsiynau ysgolion yn Sir Amwythig, Wrecsam a Phowys.
“‘Da ni wedi cael gymaint o negeseuon wrth rieni yn yr ysgol ‘ma wedi gwylltio, wedi gwylltio’n llwyr bo’ nhw’n gallu gwneud y fath beth yma yn Llansilin,” meddai.