Mae cynghorydd o Abertawe wedi pledio’n ddieuog i honiad hanesyddol o dreisio sy’n dyddio’n ôl i ddechrau’r 1990au.
Fe ymddangosodd Peter May, 56, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wedi’i gyhuddo o un honiad ar gyfer digwyddiad rhwng 1991 a 1993.
Siaradodd y diffynnydd yn y llys i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni, cyn pledio’n ddieuog.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, gydag amodau i beidio â chysylltu ag unrhyw dyst yr erlyniad ac i barhau i fyw mewn cyfeiriad penodol.
Cafodd dyddiad achos llys ei osod ar gyfer mis Medi 2026.
Ar hyn o bryd mae Mr May yn cynrychioli ward Uplands ar Gyngor Abertawe ar ran Plaid Uplands.