Wrth ymateb, dywedodd James Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r Ceidwadwyr Cymreig o blaid y cynnig, ond ni fydden nhw’n ddigon i dorri rhestrau aros hir Llafur am driniaethau.
“Llafur Cymru sydd wedi bod yn arwain tra bod y rhestrau aros ar eu hiraf yn y DU, gyda chynnydd o lai nag 1% o ostyngiad o’r brig.
“Mae angen i ni weld cyfyngiadau’n cael eu codi ar rannu gallu rhwng cymunedau, yn drawsffiniol a thraws-sector yn y tymor byr, gyda mwy o welyau GIG, cyllid gofal cymdeithasol a chynllun gweithlu sylweddol yn cael ei ddeddfu yn yr hir dymor.”
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru fod “Mae rhywfaint o hyn i’w groesawu ac maent yn adleisio cynlluniau a gyflwynwyd eisoes gan Blaid Cymru, ond mae gennyf bryder difrifol ynghylch y naws o amgylch y cynlluniau hyn.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru eisiau rhoi mwy o atebolrwydd ar y claf ac eto maen nhw wedi torri cyllid iechyd ataliol ac wedi methu â throi’r ddeial ymlaen i symud tuag at agenda fwy ataliol ar gyfer y tymor hir.
“Yn lle hynny, yr hyn yr ydym yn ei glywed yw cynlluniau pellach i gynyddu’r defnydd o’r sector preifat ar draul buddsoddi mewn mesurau ataliol o fewn y gwasanaeth iechyd, megis mwy o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.”