Dywedodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y gallai’r cynlluniau newydd – a fydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan – olygu hanner nifer y gwelyau o’i gymharu â’r cynllun gwreiddiol.
Mae’n dweud na fyddai hynny’n ddigon i leddfu’r pwysau sydd ar adrannau brys ysbytai eraill.
Yn 2013, cymeradwyodd y gweinidog iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, gynigion cychwynnol i ddatblygu ysbyty newydd ar safle yn Y Rhyl.
Roedd y cynllun ysbyty cymunedol integredig gwerth £22 miliwn i fod i gael ei gwblhau yn 2016 – roedd yn cynnwys clinigau deintyddol, 30 o welyau cleifion mewnol a 18 o welyau ar gyfer pobl hÅ·n â phroblemau iechyd meddwl.
Roedd adran pelydr-x, uwchsain, fferyllfa a chyfleusterau eraill hefyd yn rhan o’r cynllun.
Ond 12 mlynedd yn ddiweddarach, nid yw’r gwaith i ddatblygu’r safle wedi dechrau.