Y llynedd fe wnaeth y 60 aelod presennol o’r Senedd wrthod cefnogi cynnig ar gymorth i farw, ac fe fydden nhw’n pleidleisio eto i roi eu cydsyniad i’r bil sy’n mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd.
Ond waeth sut maen nhw’n pleidleisio, ni fydd trywydd y bil yn newid, ac fe fyddai’n dal i fod yn fater i lywodraeth nesaf Cymru, i benderfynu a ddylid ei ddarparu ar y gwasanaeth iechyd, ac i Senedd newydd Cymru gytuno iddo mewn pleidlais.
Waeth beth fydd penderfyniad y Senedd, byddai’r bil cymorth i farw yn ei gwneud hi’n gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr i helpu pobl sy’n dioddef o salwch terfynol i ddod â’u bywydau i ben mewn amgylchiadau penodol.
Fe gadarnhaodd Mr Miles y gallai Llywodraeth Cymru wrthod darparu’r gwasanaeth drwy’r sector gyhoeddus yng Nghymru.
“A hyd yn oed pe bai’r llywodraeth eisiau gwneud hynny, a’r Senedd ddim eisiau ei gymeradwyo, byddai’r Senedd yn gallu gwneud hynny hefyd,” meddai.