Mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer economi’r DU yn ystod Datganiad y Gwanwyn yn Nhŷ’r Cyffredin, gan gynnwys toriadau i arbed £4.8bn o’r gyllideb les.
Bydd budd-dal analluogrwydd o dan gredyd cynhwysol yn cael ei haneru a’i dorri ar gyfer hawlwyr newydd a bydd prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth bersonol, y prif fudd-dal anabledd, o fis Tachwedd 2026.
Cyhoeddodd hefyd y bydd gwariant ar amddiffyn, a oedd i fod i godi £2.9bn y flwyddyn nesaf, yn cynyddu £2.2bn arall.
“Mae’r economi fyd-eang wedi dod yn fwy ansicr,” meddai wrth ASau.
Ond dywedodd Ben Lake ar ran Plaid Cymru bod llywodraeth Lafur y DU “yn dewis cyni dros uchelgais, toriadau dros fuddsoddiad”.