32 C
New York
Thursday, June 12, 2025

Buy now

spot_img

Dau yn euog o fod mewn grŵp a fewnforiodd gwerth £11m o ganabis


Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog o fod yn rhan o grŵp troseddol wnaeth fewnforio mwy na 300kg o ganabis o’r UDA i’r DU yn defnyddio’r gwasanaeth post.

Cafodd Sean Montgomery, 24, a Steven Munroe, 44, y ddau o Gaerdydd, eu cyhuddo o gynllwynio i fewnforio a chyflenwi cyffuriau dosbarth B.

Mewn gwrandawiad blaenorol fe wnaeth Mohammed Hussain, 28, ac Abdu Hussain, 28, y ddau hefyd o Gaerdydd newid eu ple a chyfaddef mewnforio’r cyffuriau – roeddynt eisoes wedi cyfaddef eu cyflenwi.

Roedd saith o bobl eraill eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiadau sy’n gysylltiedig â’r achos.

Clywodd y rheithgor fod y cyffuriau a gafodd eu canfod gan yr heddlu werth hyd at £11m a bod hyn yn enghraifft o “werthu cyffuriau ar raddfa ddiwydiannol”.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles