21.1 C
New York
Saturday, August 9, 2025

Buy now

spot_img

Dawns flodau: Pryder bod rhai wedi’u cynnwys ar draul plant lleol


Eglurodd cofiadur yr Orsedd, Christine James, pan daeth i’r amlwg bod angen mwy o aelodau, bod rhai o ysgol ddawns sy’n gysylltiedig ag aelod o’r tîm trefnu wedi eu dewis er mwyn “hwyluso’r broses”.

“Mae Cari Sioux o Rosllannerchrugog yn aelod allweddol o dîm trefnu’r ddawns flodau ers y cychwyn ddwy flynedd yn ôl,” meddai.

“Mae’r prosiect wedi cynnig cyfle i blant ysgolion pob rhan o Wrecsam i gymryd rhan yn y ddawns.

“Yn ystod y broses baratoi, cododd yr angen am aelodau ychwanegol i ymuno â’r tîm.

“Cynigiodd Cari gymorth er mwyn hwyluso’r broses gan ddod ag aelodau o’i hysgol ddawns yn ardal Penllyn i ymuno â’r grwp.

“Drwy wneud hyn, sicrhawyd fod tîm llawn ar gael ar gyfer pob seremoni a chynnal safon y perfformiad.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles