Byddai Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Plaid Cymru yn rhoi “cyfle” i drafod annibyniaeth, ond nid yw’r camau i gyflawni hynny “yn glir eto”, yn ôl arweinydd y blaid yn San Steffan.
Dywedodd Liz Saville Roberts wrth y BBC nad yw’r setliad datganoli presennol wedi darparu gwasanaethau iechyd ac addysg uchel eu clod, a bod “rhaid i annibyniaeth fod y cam rhesymegol nesaf”.
Ond ychwanegodd nad oes amserlen i hynny.
Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai 2026, ac mae arolygon barn ar hyn o bryd yn awgrymu mai Plaid Cymru a Reform sydd ar y blaen.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud na fyddai’n cynnal refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru.