“Mae’r uned canser [yn Ysbyty Glan Clwyd] yn un o’r rhai gora’ yn y wlad – alla i ddim faultio dim maen nhw’n ‘neud,” meddai.
Ond dywedodd fod ganddo bryderon o hyd am yr “anghysondeb o fewn gwahanol adrannau”.
“Mae isio i bawb ddilyn esiampl uned [trin canser] Heulwen yn Glan Clwyd – ma’ pawb yn fanno yn bositif, yn tynnu efo’i gilydd yn lle bod rhywun yn tynnu yn erbyn ei gilydd fel dwi’n gweld yn adrannau eraill.
“Mae’r adnoddau gynnon ni ond y diffyg trefnu ynddyn nhw [ydy’r broblem],” meddai.
“Mae isio i achosion llai gael eu gweld yn sydyn. Dwi methu dallt pam na fedran nhw ddim symud pobl drwadd yn gynt.
“Yn Gaerdydd ‘da chi’n cael eich trin mewn wyth wythnos ond pam ‘da ni’n y gogledd yn gorfod disgwyl 33 wsos?”