Dechreuodd chwarae golff gyda’i Dad pan yn ddwy oed, ac mae ei ddiolch i’w deulu sydd wedi ariannu ei yrfa hyd yma yn fawr.
“O’dd Dad yn mynd â fi lan i ymarfer gyda fe bob nos, a nawr fi ‘di cyrraedd lefel eithaf da a moyn gwthio’n hunan yn bellach,” meddai.
“Ma’ teulu a ffrindiau wedi bod yn help mawr hefyd, a ma’ Mam bach fel manager!
“Ond wrth gystadlu o’n i’n gweld faint o’dd e’n mynd i gosti a phenderfynu creu tudalen ar-lein i godi arian, bydden i ffili neud hyn heb yr help.”
Bydd cyfran o’r arian sy’n cael ei godi yn mynd i elusen IPF hefyd, cyflwr ar yr ysgyfaint sydd yn ei gwneud hi’n anodd anadlu.
“Dwi’n awyddus i roi nôl i elusen sy’n bwysig iawn i’r teulu,” ychwanegodd.
“Rodd Tad-cu yn byw gyda IPF a dwi wedi codi arian i’r elusen yn y gorffennol drwy chwarae 72 twll mewn diwrnod.
“Nes i addo i Dad-cu cyn iddo farw y byddwn i byth yn rhoi’r gorau i’r freuddwyd.”