20.1 C
New York
Saturday, August 9, 2025

Buy now

spot_img

Disgwyl gwariant o £445m ar reilffyrdd yn y de a’r gogledd


Mae’r prif weinidog wedi galw’n gyhoeddus ar lywodraeth y DU i wario mwy ar reilffyrdd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi dweud pe na bai High Speed ​​2 yn brosiect Cymru a Lloegr gallai £431m fod yn ddyledus i Gymru.

Yn ôl Plaid Cymru gallai’r ddyled fod yn sawl biliwn ac mae gwleidyddion blaenllaw – yn eu plith Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens – hefyd wedi nodi hynny yn y gorffennol.

Nid yw’r arian ychwanegol yn gysylltiedig â HS2, er bod Llafur yn awyddus i wneud cysylltiad symbolaidd.

Dywedodd ffynonellau o fewn y blaid, a’r cyn-weinidog trafnidiaeth Lee Waters, fod y swm yn fwy nag y byddai Cymru wedi’i gael o’r prosiect rheilffordd cyflym.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU am arian i amryw o brosiectau rheilffordd yn y gogledd a’r de.

Maen nhw’n cynnwys gorsafoedd newydd yn Nwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, un i wasanaethu ardaloedd Somerton a Llanwern yng Nghasnewydd, un arall i wasanaethu Magwyr a Gwndy, a gwelliannau i’r brif reilffordd.

Cafodd y gorsafoedd eu hargymell gan adolygiad, gan mai dim ond tair gorsaf sydd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren ar hyn o bryd.

Fe gafodd y cynnig gefnogaeth gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Heidi Alexander, mewn llythyr at ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fis Ionawr.

Fe wnaeth hi hefyd fynegi ei chefnogaeth i adolygiad o drafnidiaeth y gogledd, oedd yn galw am welliannau i’r brif reilffordd ac i orsaf Caer – cyrchfan allweddol i deithwyr o’r gogledd – er mwyn galluogi mwy o wasanaethau.

Amcangyfrifir y bydd y gwaith yn costio £385m.



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles