Mae Annie Hillman yn rheolwr chwaraeon ac iechyd cymunedol ar gyfer yr wyth Canolfan Hamdden Better Leisure yng Nghaerdydd.
Mae’r canolfannau wedi darparu sesiynau ar y cyd gyda’r GIG ers sawl blwyddyn, lle gall cleifion â phoen clun, pen-glin a chefn hunangyfeirio, neu gael eu hatgyfeirio gan dimau ffisiotherapi ysbytai.
Mae staff y GIG wedyn yn cyflwyno dosbarthiadau yn y ganolfan hamdden yn hytrach na’r ysbyty.
Mae staff y ganolfan hefyd wedi cael eu hyfforddi i gymryd sesiynau neu asesu cleifion sydd wedi eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.
“Ar ddiwedd y cynllun chwe wythnos lle bydden nhw wedi gadael yr ysbyty maen nhw eisoes yn y ganolfan hamdden, maen nhw eisoes wedi chwalu’r rhwystr hwnnw o ddod drwy’r drws,” meddai.
“Maen nhw’n gweld pobl fel nhw’u hunain yn gwneud ymarfer corff, a dyna’r newid ymddygiad maen nhw’n parhau i’w gael.
“Mae’n atal y broblem – dydyn nhw ddim eisiau mynd yn ôl at y meddygon, dydyn nhw ddim eisiau mynd yn ôl i’r GIG, maen nhw’n cadw’n actif.
“Mae ‘na alw aruthrol ond mae’r diffyg cyllid i ni yn broblem.”