Yn ystod y cyfweliad, dywedodd bod rhai cymunedau yng Nghymru hefyd yn diodde’ gan fod cymaint o feddygfeydd yn cau.
Roedd Dr Roberts yn bartner mewn meddygfa yng Nghwm Gwendraeth am 12 mlynedd. Dros y blynyddoedd aeth nifer y doctoriaid i lawr o chwech i ddau.
Ar ôl methu recriwtio mwy o feddygon a gyda’r pwysau gwaith yn effeithio ar iechyd staff ac yn amharu ar y gwasanaeth i’r cleifion fe benderfynodd gau’r syrjeri.
Dywedodd: “Dros y ddegawd ddiwetha’ dwi’n meddwl bod dros 100 o feddygfeydd wedi cau ac mae hynny yn ei hun yn torri nghalon i – pob un o’r meddygfeydd wedi bod yn lle mor bwysig i gymunedau.
“Mae’n sefyllfa erchyll bod ‘na gymunedau wedi colli eu meddygfeydd oedd siŵr o fod yn ganolog i fywydau nifer ohonyn nhw.”
Dywedodd Dr Roberts mai dim ond un o’r problemau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd yw meddygfeydd yn cau. Gyda rhestrau aros yn cynyddu, diffyg gwelyau mewn ysbytai ac amseroedd hir i ddisgwyl am ambiwlans, mae’n rhaid gwneud rhywbeth “chwyldroadol” i adfer y gwasanaeth iechyd.