25.3 C
New York
Friday, June 13, 2025

Buy now

spot_img

Dyn a fagwyd yng Nghasnewydd wedi marw yng ngwrthdrawiad Air India


Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn a gafodd ei fagu yn ne Cymru, ei wraig a’i ferch, a fu farw yn y gwrthdrawiad awyren yn India ddydd Iau.

Roedd Akeel Nanabawa – dyn busnes 35 oed oedd yn arfer byw yng Nghasnewydd ond sydd bellach yn byw Sir Gaerloyw – ei wraig, Hannaa Vorajee a’u merch bedair oed, Sara, ymhlith y 53 o bobl o’r DU fu farw yn y digwyddiad.

Roedd 242 o bobl ar yr awyren pan ddaeth i lawr bum munud ar ôl gadael maes awyr Ahmedabad am faes awyr Gatwick yn Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gloucestershire Muslim Bereavement Council fod eu “calonnau wedi torri”.

“Yn ystod y cyfnod yma o dristwch llethol, mae’n meddyliau gyda phawb sydd wedi eu gadael ar ôl,” meddai’r llefarydd.

“Ni all unrhyw eiriau leddfu’r boen wedi cymaint o golled, ond rydyn ni’n gweddïo y gall y teulu dderbyn rhywfaint o gysur o weld y tosturi a’r gefnogaeth gan gymunedau o ar draws y byd.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles