Mae dyn 28 oed o Lantrisant wedi cyfaddef ceisio llofruddio heddwas gyda chyllell mewn ymosodiad y mae’r erlyniad yn dweud oedd wedi’i ysgogi gan ideoleg gwrth-lywodraeth.
Mae’r achos yn ymwneud â digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu Tonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, ar nos Wener 31 Ionawr.
Fe wnaeth Alexander Stephen Dighton hefyd gyfaddef ceisio cynnau tanau bwriadol, ymosod ar ddau swyddog heddlu arall, a bygwth trydydd.
Yn sefyll yn y doc yn gwisgo crys chwys llwyd, plediodd Dighton yn euog i 10 cyhuddiad.
Fe wnaeth Dighton ddewis cynrychioli ei hun yn llys yr Old Bailey yn Llundain.
Pan awgrymodd Mrs Ustus Cheema Grubb fod ganddo broblem gydag awdurdod, dywedodd wrthi: “Nid awdurdod yw fy mhroblem, ond y defnydd o awdurdod rydw i wedi’i weld ers yn 15 oed, dyna fy mhroblem.”
Daeth adroddiad seiciatrig i’r canlyniad ei fod yn addas i bledio i’r cyhuddiadau.