Mae dyn 40 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl achos o drywanu ar Ffordd Aberfan brynhawn Sadwrn.
Mae dyn 45 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad.
Bu rhaid i’r dyn gafodd ei anafu fynd i Ysbyty’r Tywysog Siarl.
Mae wedi dioddef anafiadau difrifol ond dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw’n credu eu bod yn peryglu ei fywyd.
Ffordd Aberfan yw’r brif ffordd drwy Aberfan a chafodd ei chau am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jonathan Allen: “Mae’r digwyddiad hwn wedi achosi cryn bryder yn y gymuned leol.
“Gallaf gadarnhau ein bod wedi arestio rhywun yn fuan ar ôl y digwyddiad ac mae’r dyn sydd dan amheuaeth, sy’n adnabod y dioddefwr, nawr yn y ddalfa”.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.