23 C
New York
Monday, August 11, 2025

Buy now

spot_img

Eisteddfod ‘sbesial’ Wrecsam yn rhoi ‘egni’ i gais Dinas Diwylliant


Ar faes yr Eisteddfod roedd gobaith bod yr Eisteddfod wedi rhoi “hwb” i’r cais Dinas Diwylliant, gyda “brwdfrydedd mawr yn y ddinas”, meddai Jane Thomas o Amgueddfa Wrecsam.

Tebyg oedd teimladau Gareth Thomas, swyddog marchnata y farchnad a chanolfan gelfyddydol, TÅ· Pawb.

Symudodd i Wrecsam oherwydd y diwylliant. Mae’n gitarydd mewn band, a dywedodd mai “dyma lle roedd y gigs gorau”.

Mae’n dweud nad yw llawer yn ymwybodol o’r hyn sydd gan y ddinas i’w gynnig, ond bod yr Eisteddfod wedi newid hynny.

“Mae’r Eisteddfod wedi helpu ni i gyrraedd y lefel nesaf yn y byd celf yng Nghymru”, meddai.

“Da ni yn gwybod fod pobl sy’ ‘di bod i’r Steddfod hefyd ‘di bod i TÅ· Pawb.

“Mae ‘na lot fawr o bobl newydd ni ‘di siarad efo nhw am y cais. Mae ‘di bod yn help anferth. Bydde hyn yn andros o fawr i Wrecsam.”

Yn y gorffennol mae wedi teimlo nad oedd y celfyddydau a diwylliant yn Wrecsam yn y “spotlight fel petai, ond mae wastad ‘di bod yna, ma’ lot yn grass roots. Mae y Steddfod yn mynd i newid hyn.”

“Ma’ wythnosau fel hyn yn mynd i ‘neud byd o wahaniaeth a newid.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles