22.2 C
New York
Wednesday, August 6, 2025

Buy now

spot_img

Eisteddfod yn ‘sbardun’ i’r iaith yn Wrecsam a’r cylch


Collodd Craig Colville ei Gymraeg ar ôl yr ysgol oherwydd “diffyg siawns” i ddefnyddio’r iaith yn gyhoeddus, ond ailgydiodd ynddi yn hwyrach yn ei fywyd wrth weithio yn Sir Ddinbych.

Ei gyngor yw “defnyddiwch eich Cymraeg gymaint allwch chi”.

“Mae cerddoriaeth Cymraeg yn wych, darllen a just ffeindio digwyddiadau sydd yna yn y Gymraeg.

“Gwyliwch y pêl-droed gyda’r sylwebaeth Cymraeg – mae hwnna’n brilliant!”

Cafodd ei fagu mewn teulu di-Gymraeg ond aeth i gylch meithrin ac ysgol cyfrwng Cymraeg.

“D’eud y gwir nes i golli Cymraeg fi oherwydd diffyg siawns i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus.

“A wedyn ailgydio yn y Gymraeg yn hwyrach yn bywyd fi wrth weithio yn Sir Ddinbych. Beth oeddwn i’n ‘neud fanna oedd gofyn i bobl siarad Cymraeg efo fi.

“Roedden nhw yn trio newid i Saesneg i helpu, ond o’n i’n dal i siarad Cymraeg. Roedd o’n battle of wills a fi nath ennill rhan fwya’ o’r amser!”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles