24.9 C
New York
Friday, September 26, 2025

Buy now

spot_img

Elin Jones i roi’r gorau i’w rôl fel Llywydd y Senedd


Dywed ei bod yn falch o’i gwaith yn lobïo am fwy o aelodau ar gyfer corff sydd wedi ennill mwy o bwerau ers 1999: “Roeddwn i bob amser yn meddwl bod angen i fi wneud rhywbeth gyda rôl y Llywydd.

“Ac i mi, un o’r prif faterion bob amser oedd gwneud hon yn senedd iawn ar gyfer yr 21ain ganrif.”

Mae’n sôn am adroddiad yr Athro Laura McAllister wnaeth awgrymu cynyddu nifer yr aelodau: “…ac yna mae’r trafodaethau gwleidyddol sydd wedi deillio o hynny wedi cymryd bron i 10 mlynedd i gyrraedd y pwynt lle byddwn yn ethol senedd iawn i bobl Cymru y flwyddyn nesaf.”

Gyda’r siambr yn cael ei hadnewyddu ar gyfer yr aelodau newydd, dywed Elin Jones ei bod yn bryd cael person newydd yn y gadair.

“Ac ar y nodyn hwnnw, gallaf ddod â’m hamser fel Llywydd i ben a throsglwyddo’r awenau, felly ni fyddaf yn rhoi fy enw ymlaen i fod yn Llywydd ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

“Rwy’n gobeithio bod yn un o’r 96 sydd fan hyn, ond fyddai ddim yn rhoi fy enw i ymlaen.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles