Mae rheithgor mewn cwest wedi cofnodi bod esgeulustod wedi cyfrannu tuag at farwolaeth claf 24 oed mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd.
Cafodd Darren Roberts-Pomeroy ei ddarganfod yn gorwedd yn ei wely gyda chyfog mewn powlen wrth ei ochr yn uned Tŷ Llywelyn yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan ar 1 Hydref 2021.
Clywodd y cwest yn Rhuthun ei fod wedi cwyno am boenau yn ei stumog y diwrnod blaenorol, ac roedd i fod i gael archwiliadau meddygol bob awr yn ystod y nos.
Ond chafodd yr archwiliadau rheiny ddim eu cynnal, ac fe ddarganfuwyd bod nyrs oedd wedi honni ei fod wedi archwilio’r claf yn weledol bob awr, wedi rhoi gwybodaeth “anghywir” ac “anonest”.
Tydi’r nyrs ddim bellach yn gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Fe gofnododd y rheithgor yn y cwest gasgliad naratif, gydag esgeulustod wedi cyfrannu tuag at y farwolaeth.
Mae’r bwrdd iechyd wedi cael cais am ymateb.