26.3 C
New York
Saturday, August 9, 2025

Buy now

spot_img

Galw am fwy o gefnogaeth i ddisgyblion ac ysgolion ers Covid


Mae angen mwy o gefnogaeth i helpu’r rheiny sydd wedi eu heffeithio fwyaf, medd y seciolegydd plant, Dr Nia Williams o Brifysgol Bangor.

“Ers y cyfnod clo mi ydan ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer o blant sydd hefo problemau iechyd meddwl, problemau fel iselder, a phroblemau fel pryder.”

Ychwanegodd er bod ysgolion yn gwneud “gwaith anhygoel” yn cefnogi disgyblion bod rhaid, o bosib, meddwl am “fuddsoddi mwy o arian i helpu yr athrawon a’r ysgolion yma i gefnogi’r plant a’u teuluoedd nhw gora fedran nhw”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Er bod presenoldeb ysgol wedi cynyddu ychydig eleni, mae’n parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd cyn y pandemig.

“Mae’r rhesymau dros ddiffyg presenoldeb yn amrywiol ac yn aml yn gymhleth ac rydym wedi cyhoeddi £7m yn ddiweddar i gynyddu lefelau presenoldeb ac ymateb i anghenion dysgwyr a’u teuluoedd.

“Rydym hefyd yn darparu £5.6m i gefnogi rhaglen CAMHS mewn ysgolion, gydag ymarferwyr iechyd meddwl ymroddedig mewn ysgolion yn darparu cefnogaeth.”



Source link

Related Articles

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Stay Connected

0FansLike
0FollowersFollow
0SubscribersSubscribe
- Advertisement -spot_img

Latest Articles