Ond dyw’r AS Ceidwadol Mark Isherwood, sy’n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar anableddau, ddim yn argyhoeddedig y bydd y cynllun yn arwain at newid gwirioneddol a pharhaol.
“Fel bob amser, y broblem yw sut y caiff hyn ei fonitro? Sut y caiff ei werthuso?
“A fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd pan gaiff ei gamddeall neu pan na chaiff ei weithredu, fel sy’n digwydd gyda chymaint o bethau eraill sy’n effeithio, fel yn y cyd-destun hwn, plant anabl?
“Mae’n rhaid bod gan y cynllun ddannedd,” meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Bydd ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer hawliau pobl anabl yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau a chreu gwelliannau parhaol i bobl anabl yng Nghymru.
“Byddwn yn sefydlu bwrdd cynghori annibynnol newydd i fonitro a gwerthuso ei gynnydd.”