Mae dyn 57 oed wedi cael ei arestio yn Llanelli ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â sylweddau ffrwydrol.
Mae pum ffordd wedi cael eu cau yn rhannol yn y dref ar ôl i arbenigwyr gwaredu ffrwydron gael eu hanfon i eiddo yno.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod yr ardal o amgylch Heol Doc Newydd ar gau er mwyn diogelu’r cyhoedd.
Dywed plismyn bod swyddogion gwaredu ordnans ffrwydrol ar y safle ar hyn o bryd, a bod trigolion sy’n byw gerllaw wedi cael gwybod nad yw’n bosib iddyn nhw ddychwelyd i’w cartrefi.
Mae canolfan orffwys wedi agor yng Nghanolfan Hamdden Llanelli ar gyfer trigolion sy’n cael eu heffeithio.
Y ffyrdd sydd ar gau yw Trinity Terrace, Heol y Drindod, Heol y Gwaith Copr, Heol y Doc Newydd a Stryd Marged.