Roedd yna 20 cais, sy’n fwy na’r arfer, ac yn dystiolaeth bod newid i’r fformat yn gweithio, yn ôl yr Eisteddfod.
Roedd hi’n ofynnol i ddramodwyr gyflwyno braslun o hyd at 2,500 o eiriau sy’n cynnwys amlinelliad stori – dechrau, canol, diwedd – lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn yn ogystal ag enghraifft o dair golygfa wedi eu deialogi, neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.
Mae cwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru wedi dod ynghyd i greu consortiwm fel rhan o bartneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i gynnig pecyn o gyfleoedd i enillydd y fedal.
Aelodau’r consortiwm yw Frân Wen, Theatr Bara Caws, Theatr Clwyd, Theatr Cymru, Theatr Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch ynghyd â’r Eisteddfod.