Mae dadansoddiad newydd o ddant buwch neolithig gafodd ei ffeindio ger Côr y Cewri yn dangos roedd yr anifail yn debygol o ddod o Gymru, gan gefnogi’r syniad bod gwartheg wedi helpu i gludo’r cerrig enfawr.
Dadansoddwyd y dant, o asgwrn genau buwch a gafodd ei ddarganfod wrth ymyl mynedfa ddeheuol y safle yn 1924, gan wyddonwyr o Gymdeithas Ddaearegol Prydain, Prifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain.
Cafodd y dant ei rannu’n naw adran, a’i ddadansoddi am gliwiau am ddeiet, amgylchedd a symudiad yr anifail.
Mae’r gwaith yn cynnig tystiolaeth am y tro cyntaf am gysylltiadau rhwng gweddillion gwartheg yn ardal Côr y Cewri a Chymru, ar yr adeg pan symudwyd y cerrig gleision i’r safle.
“Mae’n gysylltiad arall rhwng Côr y Cewri a Chymru,” meddai’r Athro Jane Evans, o Gymdeithas Ddaearegol Prydain.
“Gallwch ddweud bod yr anifail wedi bod yn pori ar y graig Paleosöig, sy’n nodweddiadol o’r rhai a geir yng Nghymru, yn enwedig yn ac o gwmpas lle mae cerrig glas i’w cael.”