Mae gwasanaethau tân wedi cyhoeddi bod nifer o danau gwyllt yn llosgi ar draws Cymru dydd Mawrth.
Yng Ngwynedd, mae pedwar injan yn parhau i ddelio â thân yng Ngarndolbenmaen a ddechreuodd toc wedi 22:00 nos Lun.
Cafodd criwiau hefyd eu galw i dân mawr ger y mast teledu a radio yn Nebo nos Fawrth.
Yn Sir Caerffili, mae criwiau yn delio â thân mawr mewn coedwig yn ardal Wattsville a Cross Keys, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynghori trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau.
Mae tanau hefyd wedi bod yn llosgi ger yr archfarchnad Tesco yn Abertyleri, mewn coedwig yng Nghlydach ac yn Hirwaun.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael eu galw i danau ym Mrynberian, Crymych, yn Hebron, Hendy-gwyn ar Daf, yng Nghefn Rhigos ac yn Llanllwni.
Mae disgwyl i’r tywydd sych bara am weddill yr wythnos.