Mae’n “hanfodol” bod sefydliadau “yn parhau i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg” wrth fabwysiadu technolegau newydd, yn ôl swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae deallusrwydd artiffisial, neu AI, yn un o bynciau trafod mawr Maes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Wrecsam, ac yn ystod y dydd fe fydd y comisiynydd yn cyhoeddi polisi ar y defnydd ohono gan sefydliadau sy’n dod o dan Safonau’r Gymraeg.
Fe gafodd y safonau eu cyflwyno yn 2016 i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg.
Ond mae’r maes technoleg wedi newid yn fawr ers i’r safonau ddod i rym, yn enwedig o ran y defnydd o’r Gymraeg mewn systemau AI.
Yn ôl swyddfa’r comisiynydd, fe allai’r dechnoleg alluogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon, ac o bosib sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn berthnasol ac yn fyw mewn byd digidol.
Dywed Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio: “Mae’n bwysig bod unrhyw ddatblygiadau technolegol yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd sy’n parhau i adlewyrchu arferion defnyddwyr, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a’i hyrwyddo yn y byd digidol.